Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Mawrth 2023
Amser:
09.00 -
09.23
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Nid oes dim newidiadau i fusnes yr wythnos hon.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cymryd rhan o bell yn ystod trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr ac yn gallu cymryd yr awenau pe bai anawsterau technegol.
Cadarnhaodd y Llywydd y bydd toriad technegol byr cyn dechrau trafodion Cyfnod 3 er mwyn caniatáu i baratoadau terfynol gael eu gwneud.
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes hefyd y bydd ffotograffydd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus ar ddechrau Cyfarfod Llawn heddiw i dynnu lluniau o gyfranogwyr y digwyddiad LeadHERship.
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael (30 munud) - gohiriwyd tan 28 Mawrth
Dydd Mawrth 21 Mawrth 2023
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein (30 munud) - gohiriwyd
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 22 Mawrth 2023 –
Dydd Mercher 29 Mawrth 2023 –
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud Dadl Fer Carolyn Thomas o 24 Mai i 17 Mai a cheisio llenwi'r slot Dadl Fer sydd bellach yn wag ar 22 Mawrth.
4 Deddfwriaeth
4.1 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr ynghylch y tebygolrwydd y caiff Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ei osod yn hwyr a'r diffyg amser craffu y bydd hyn yn ei olygu i bwyllgorau'r Senedd. Codwyd pryderon ynghylch y dull a gymerwyd gan y Llywodraeth yn yr achos hwn i oedi cyn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar nifer o welliannau a wnaed yn San Steffan sawl wythnos ynghynt.
Nododd y Trefnydd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi o ran a fyddai'n bosibl symud y ddadl ar y Memorandwm hwn o 14 Mawrth i ddyddiad diweddarach er mwyn caniatáu amser ychwanegol i graffu, neu ymestyn yr amser ar gyfer y ddadl i 45 munud os nad yw hynny'n bosibl.
5 Unrhyw Fater Arall
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar lafar gan y Trefnydd ar lawer o Femoranda a chytunodd i:
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ymghylch Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr y derbyniodd gopi ohono ar 6 Mawrth, a oedd wedi'i ddosbarthu ar wahân, gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch nifer o ddiffygion yn Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023, y disgwylir iddynt gael eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Mawrth. Dywedodd y Trefnydd y byddai'r Gweinidog yn ystyried ac yn ymateb i'r llythyr fel mater o flaenoriaeth.
Cyfraniad gan Gareth Davies AS yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2023
Cododd y Trefnydd gyfraniad a wnaed gan Gareth Davies AS yn ystod Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth, ynghylch darparu safleoedd i deithwyr, a gofynodd a oedd yr Aelod wedi ymddiheuro am yr iaith a ddefnyddiwyd. Cadarnhaodd y Llywydd ei bod wedi cael ymddiheuriad ac wedi ei dderbyn.